Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 9 Tachwedd 2016

Amser: 09.15 - 10.52
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3782


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Dawn Bowden AC

Jayne Bryant AC

Angela Burns AC

Rhun ap Iorwerth AC

Caroline Jones AC

Julie Morgan AC

Lynne Neagle AC

Tystion:

Anita Charlesworth, Yr Sefydliad Iechyd

Adam Roberts, Yr Sefydliad Iechyd

Staff y Pwyllgor:

Sarah Beasley (Clerc)

Claire Morris (Ail Glerc)

Sarah Sargent (Dirprwy Glerc)

Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol)

Stephen Boyce (Ymchwilydd)

Philippa Watkins (Ymchwilydd)

 

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 262KB) Gweld fel HTML (122KB)

 

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2       Ymchwiliad i gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol - sesiwn dystiolaeth gyda'r Sefydliad Iechyd

2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Sefydliad Iechyd.

 

3       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

4       Ymchwiliad i gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol - trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2, a thrafod yr ymatebion a gafwyd i ymgynghoriad y Pwyllgor

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd gan y sefydliad iechyd a thrafododd yr ymatebion ysgrifenedig i'r ymgynghoriad cyhoeddus. Cytunodd y Pwyllgor y byddai crynodeb o'r ymatebion hynny'n cael ei gyhoeddi maes o law.

 

5       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): trafod y dull gweithredu ar gyfer gwaith craffu yng Nghyfnod 1

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull gweithredu ar gyfer gwaith craffu ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) a chytunodd i alw am dystiolaeth yn ddiweddarach yn yr wythnos. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i wahodd rhanddeiliaid perthnasol i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor mewn cyfarfodydd yn ddiweddarach yn y tymor.